Cynhadledd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Ieithoedd Modern 2021: Y cof, cyfieithu a gwleidyddiaeth
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Cynhadledd ar-lein a gynhelir gan gymuned ymchwil ôl-raddedig Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ar y cof, cyfieithu a gwleidyddiaeth.
Nod
Nod y gynhadledd hon yw cyflwyno prosiectau doethurol y garfan bresennol o fyfyrwyr PhD yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Rydym yn gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn gyfle i gyfoedion yn ogystal â staff ymchwil ac addysgu rannu eu syniadau a’u barn am yr ymchwil. Bydd paneli ar y cof, cyfieithu a gwleidyddiaeth, ynghyd â chyfarfod anffurfiol gyda rhai o gyn-fyfyrwyr PhD yr Ysgol. Bydd cyfle hefyd i weld proffiliau a phosteri myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig presennol drwy fynd ar daith gerdded drwy oriel rithwir. Ar ôl y gynhadledd, bydd derbyniad ar-lein anffurfiol.
Platfform rhithwir
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar-lein ar Zoom, a bydd y daith gerdded drwy’r oriel yn cael ei chynnal ar Artsteps.
Rhaglen
Mae rhaglen o'r digwyddiad ar gael.
Pwy all gymryd rhan
Mae'r gynhadledd yn agored i fyfyrwyr ôl-raddedig yr Ysgol a staff ac ymchwilwyr ôl-raddedig eraill y coleg.