Ysgol Fusnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Elena Lisauskaite a Dr. Victoria Winckler
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Amddifadedd – Effaith Covid yn y DU
Yn y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hwn, bydd Elena Lisauskaite, economegydd yn Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR), a Dr Victoria Winckler , Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, yn ymuno gyda ni i archwilio maint ac effaith amddifadedd yn y DU, ac yn benodol, wrth ystyried effaith Covid yn ystod yr 16 mis diwethaf.
Diffinnir amddifadedd yma fel incwm mor isel y bydd cartref yn debygol o fod heb ddarpariaeth hanfodol, megis cysgod, bwyd, gwres, goleuadau, dillad a nwyddau ymolchi sylfaenol. Bydd Elena yn rhannu manylion adroddiad diweddar i Effaith COVID-19 ar amddifadedd yn y DU, gan awgrymu sut y bydd cynnydd diweithdra, a diwedd cynllun Furlough yn effeithio’n negyddol ar lefelau tlodi. Bydd Victoria yn rhannu mewnwelediadau i gyd-destun Cymru, gan edrych ar rai o’r awgrymiadau polisi a gyflwynwyd gan Sefydliad Bevan.
Ymunwch gyda ni am y sesiwn hon, i glywed mwy am yr hyn y gellir ei wneud am y mater holl bwysig hwn.
Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).