Mynd i'r afael â TB a datgloi iachâd cyffredinol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Hannah Thomas sits in her lab office](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2518097/Hannah-Thomas-2021-5-5-15-52-59.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd y digwyddiad hwn a recordiwyd ymlaen llaw yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar y dudalen hon am 12.30. Ychwanegwch ef at eich calendr a dilynwch y ddolen yn y nodyn yn eich dyddiadur i'w wylio.
Ymunwch â ni am sgwrs amser cinio â Hannah Thomas (BSc 2019, Meddygaeth 2020-) i drafod sut mae eich cefnogaeth wedi cael effaith arni. Mae ymchwil Hannah i’r system imiwnedd yn edrych ar Gelloedd-T (math o gell gwyn y gwaed sy’n ymladd â heintiau) sy’n targedu’r bacteria sy’n achosi Twbercwlosis yn benodol, afiechyd sy’n dal i heintio miliynau bob blwyddyn. Byddwn yn sgwrsio â Hannah am ei gwaith, a ariannwyd gan rodd mewn Ewyllys, ac yn clywed sut y gallai helpu i fynd i’r afael â TB yn ogystal â chlefydau fel canser a diabetes.
Gwyliwch Eich effaith - Mynd i'r afael â TB a datgloi iachâd cyffredinol