Adeiladu cartrefi, cymunedau, a chysylltiadau byd-eang
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![A group of builders work on a wood building - there are palm trees in the background](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2518091/CAUKIN-Studio-development-2021-5-5-15-49-24.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd y digwyddiad hwn a recordiwyd ymlaen llaw yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar y dudalen hon am 12.30. Ychwanegwch ef at eich calendr a dilynwch y ddolen yn y nodyn yn eich dyddiadur i'w wylio.
Ymunwch â ni am sgwrs amser cinio â Josh Peasley (BSc 2016, MArch 2018) a Harry Thorpe (BSc 2016, MArch 2018) i drafod sut mae eich cefnogaeth wedi cael effaith. Sefydlwyd Stiwdio CAUKIN gan chwe myfyriwr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Dîm Menter a Dechrau Busnes Caerdydd, a chyllid dyngarol gan Brifysgolion Santander. Gan weithio ar ddylunio cynaliadwy a phrosiectau cymunedol ledled y byd, maen nhw'n helpu i addysgu, uwchsgilio a grymuso pobl leol. Chwe blynedd yn ddiweddarach, maen nhw nawr yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd.
Gwyliwch Eich effaith - Adeiladu cartrefi, cymunedau, a chysylltiadau byd-eang