Creu a llunio isadeileddau ‘sero net’ yn y ‘ddinas’ a thu hwnt
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae COP 26 yn agosáu ac mae angen dybryd i gyflymu trosglwyddiadau sero net. Derbynnir y bydd mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyflawni sero net yn golygu ad-drefnu rhwydweithiau trafnidiaeth, trydan, nwy, dŵr a gwastraff yn radical. Mae hwn yn brawf o bwys i'r gymdeithas yn gyffredinol ac yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â rheoli a datblygu isadeileddau gwasanaeth allweddol. Mae'r prawf hwn yn cynnwys heriau rhwydwaith-benodol a thraws-rwydwaith, sydd wedi'u ffurfweddu ar yr un pryd mewn dinasoedd a thu hwnt ac mewn gwahanol lefydd ac ar amserlenni gwahanol.
Gan gydnabod arwyddocâd yr heriau hyn, mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar y cwestiynau allweddol canlynol ac yn mynd i'r afael â nhw:
- Pa broblemau y mae gwahanol isadeileddau yn eu hwynebu mewn perthynas â chwrdd â sero net?
- Sut mae heriau a newidiadau rhwydwaith penodol yn datblygu mewn dinasoedd a thu hwnt?
- Beth yw'r cyfleoedd ar gyfer (a rhwystrau i) gydweithrediadau traws-rwydwaith sy'n cefnogi sero net?
Ymdrinnir â'r cwestiynau hyn trwy ddigwyddiad ar-lein hanner diwrnod, sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr polisïau hinsawdd, arweinwyr integreiddio systemau, a gweithwyr proffesiynol rhwydwaith sydd â gwybodaeth arbenigol am newid yn yr hinsawdd, rheoli isadeileddau a chyflawni sero net.
Siaradwyr
- Nick Eyre - Athro Ynni a Pholisïau Hinsawdd yn y Sefydliad Newid Amgylcheddol (ECI) ym Mhrifysgol Rhydychen, a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwilio i Ddatrysiadau Galw am Ynni (CREDS)
- Emma Harrison - Pennaeth Integreiddio Systemau, yn Energy Systems Catapult
- Mark Barry - Athro Ymarfer mewn Cysylltedd (PT) Prifysgol Caerdydd, Cynghorydd Strategol (PT) Trafnidiaeth Cymru, M&G Barry Consulting
- Ben Burggraaf - Dŵr Cymru ac Is-gadeirydd Energy Managers Association
- Oliver Lancaster, Rheolwr Cysylltiadau Sero Net, Wales & West Utilities
- Joshua Visser, Rheolwr Arloesedd, National Grid ESO
Rhaglen y Digwyddiad
Sesiwn 1 (11.00 – 12.15): ‘Graddfa’ yr heriau sero net
11.00 Cyflwyno’r Digwyddiad
Rebecca Windemer, Carla de Laurentis, Torik Holmes
11.10 Yr her sero net
Nick Eyre, Athro mewn Yanni a Pholisi Hinsawdd, Cyfarwyddwr CREDS, Prifysgol Rhydychen
11.30 Heriau a chyfleoedd seilwaith ar gyfer integreiddio traws-rwydwaith
Emma Harrison, Energy Systems Catapult
11.50 Sesiwn Holi ac Ateb
Gyda’r ddau siaradwr
12.15 Cinio
Sesiwn 2 (13.00 – 15.00): Rhwydweithiau a chwrdd â sero net
13.00 Trafnidiaeth, Gwastraff, Dŵr, Nwy, Trydan
Mark Barry, Athro Ymarfer, Prifysgol Caerdydd a M&G Barry Consulting; I’w gadarnhau; Ben Burggraaf, Dŵr Cymru; Oliver Lancaster, Rheolwr Cysylltiadau Sero Net, Wales & West Utilities; Joshua Visser, Rheolwr Arloesedd, National Grid ESO
14.15 Egwyl goffi ‘digidol’ a gofyn cwestiynau
I’w gadarnhau
14.30 Sesiwn Holi ac Ateb
Gyda’r pum siaradwr
14.55 Crynhoi’r digwyddiad
Rebecca Windemer, Carla de Laurentis, Torik Holmes
Sylwch, er mwyn sicrhau diogelwch y digwyddiad bydd angen i chi gofrestru er mwyn derbyn manylion mewngofnodi'r digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar Zoom.
Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn