Y Cyfieithydd fel Cymodwr: Sut y bu i Astrid Berger “Ailgartrefu” Eva Kollisch, yr Awdur Alltud, ym Maes Llenyddol Awstria
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Polaroids of head-and-shoulders images of smiling individuals](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2515910/Transnational-Cultural-and-Visual-Studies-research-theme-stock-image-2021-4-26-14-44-48.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Gweminar gyda Dr Karin Hanta (Coleg Middlebury), a drefnwyd gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol yr Ysgol Ieithoedd Modern.
Crynodeb
Ysgrifennodd yr awdur ffeministaidd Eva Kollisch ei gwaith hunangofiannol The Ground under My Feet yn 2008. Yn y gwaith hwn, mae'n adrodd hanes ei phlentyndod fel Iddew yn Awstria, sut y bu iddi ddianc o Fienna i Loegr ar Kindertransport ym 1938, a sut ffurfiwyd ei hunaniaeth drawsddiwylliannol. Gan ddechrau yn 2003, trosglwyddwyd gwaith Eva Kollisch i faes llenyddol Awstria trwy ei gyfieithu. Ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000oedd gwelwyd dwy duedd yn llenyddiaeth alltudiaeth a Holocost Awstria yn dod at ei gilydd: nid yn unig cyhoeddwyd nifer sylweddol o weithiau hunangofiannol gan oroeswyr ac alltudion, ond hefyd lleisiau menywod yn benodol a wnaeth eu hunain yn glywadwy, gan ychwanegu naws ffeministaidd bendant i ddiwylliant cof Awstria. Yn y sgwrs hon, byddaf yn dadlau bod angen amrywiaeth eang o actorion diwylliannol i integreiddio Eva Kollisch ym maes llenyddol Awstria trwy gyfieithu diwylliannol ar lefel fwy trosiadol a chyfieithu gwirioneddol, h.y. trosglwyddo rhyng-ieithyddol go iawn. Dadleuaf ymhellach fod y prosiectau cof cyfieithu ffeministaidd hyn wedi'u seilio ar oddrychedd crwydrol - yn achos yr awdur - a goddrychedd gysylltiedig - yn achos broceriaid diwylliannol Awstria. O ganlyniad, esblygodd “noeud de mémoire” amlgyfeiriol. Yr elfen fwyaf cydnaws â dychweliad Eva Kollisch i’w “mamiaith” oedd cydweithrediad agos yr awdur â’r cyfieithydd ffeministaidd Astrid Berger, sydd 30 mlynedd yn iau na’r awdur, ac a lwyddodd yn y diwedd i “ailgartrefu” gwaith yr awdur ym maes llenyddol Awstria.
Bywgraffiad
Mae Karin Hanta yn hanu o Awstria, ac mae ganddi raddau MA mewn Astudiaethau Americanaidd (Prifysgol Notre Dame) ac mewn Cyfieithu a Dehongli (Prifysgol Fienna) a PhD mewn Astudiaethau Cyfieithu o Brifysgol Fienna. Mae Karin yn addysgwr amlieithog sydd wedi derbyn dyfarniad Fulbright dwy flynedd, a hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Adnoddau Ffeministaidd Coleg Middlebury, lle mae hi hefyd wedi dysgu “Cyflwyniad i Astudiaethau Cyfieithu” yn ystod semester dwys tymor mis Ionawr y coleg. Yn Athro Ymarfer, mae Karin hefyd wedi addysgu “Yr Holocost ac Alltud mewn Cyfieithiad” yn Middlebury. Cyhoeddwyd traethawd estynedig Karin, “Back to the Mother Tongue: Austrian Exile Writers in the Austrian Literary Field, 1990-2015” ar ffurf llyfr gan Wasg Mandelbaum, Fienna, yn hydref 2020. Mae Karin hefyd yn awdur 15 o lyfrau teithio ar gyfer cyhoeddwyr yn yr Almaen, yn cwmpasu cyrchfannau fel Brasil, yr Ariannin, Efrog Newydd, a Llundain.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 29 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.