Tai yng Nghymru: Tystiolaeth i'r Llywodraeth 2021-2026
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Event Agenda](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2514683/Event-Agenda-2021-4-20-9-9-9.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ym mis Mai 2021 bydd Cymru yn ethol aelodau i Senedd nesaf Cymru. Gan ddefnyddio tystiolaeth ddiweddar o Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) bydd y digwyddiad yn archwilio sawl mater allweddol ynghylch tai (gan gynnwys creu lleoedd cynaliadwy trwy hyrwyddo gwerth dylunio, mynd i’r afael â digartrefedd, ac annog ymgysylltu â thenantiaid) gyda’r bwriad o lywio polisïau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.
Ymhlith y siaradwyr bydd: Dr Bob Smith, Prifysgol Caerdydd/CaCHE; Yr Athro Flora Samuel, Prifysgol Reading/CaCHE; Yr Athro Paul Hickman, Prifysgol Sheffield Hallam/CaCHE; Dr Peter Mackie, Prifysgol Caerdydd/CaCHE
Sylwch, er mwyn sicrhau diogelwch y digwyddiad bydd angen i chi gofrestru er mwyn derbyn manylion mewngofnodi'r digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar Zoom.
Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn
Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd Yn cydweithio â Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) a Sefydliad Data ac Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)