Peirianneg Sgwrsio: Deall gofynion rheolaeth wrth gynhyrchu iaith.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Alexandra Gardens](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0020/2512262/Alexandra-Gardens-2021-4-7-11-18-25.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae egwyddorion damcaniaethol rheoli wedi bod wrth wraidd modelau niwrobiolegol-gredadwy o swyddogaeth ac ymddygiad yr ymennydd ac, yn gynyddol, maent hefyd yn llywio dyluniad robotiaid a ysbrydolir gan fioleg. Ond er bod y dulliau hyn sy'n seiliedig ar reolaeth wedi arwain at ddatblygiadau mawr yng nghyd-destun rheoli echddygol, nid ydynt eto wedi'u cymhwyso i her cynhyrchu iaith.
Mae robotiaid cymdeithasol o'r radd flaenaf yn cynhyrchu iaith naill ai ar sail systemau anhyblyg sy'n seiliedig ar reolau, neu systemau mwy hyblyg sy'n cael eu gyrru gan ddata sydd, fodd bynnag, yn dibynnu ar argaeledd llawer iawn o ddata anodedig. Felly mae cyfyngiadau i'r ddau ddull hyn, ac nid yw'r naill na'r llall yn cael ei lywio gan ein dealltwriaeth o seicoleg a niwrowyddoniaeth cynhyrchu iaith. Er bod modelau cyfrifiadurol o reoli echddygol y lleferydd wedi'u datblygu'n dda (ee model DIVA), ar hyn o bryd nid ydynt yn ymestyn y tu hwnt i gynhyrchu sillafau sengl.
Yn y gweithdy hwn, rydym yn dod â grŵp rhyngddisgyblaethol o arbenigwyr ynghyd i drafod sut y gallai egwyddorion damcaniaethol rheoli fod yn berthnasol i gynhyrchu iaith o neges i sain, ac yng nghyd-destun sgwrs.