Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad Briffio Etholiad Dadansoddi Cyllid Cymru

Dydd Mawrth, 27 Ebrill 2021
Calendar 09:00-10:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Senedd image

Cyn etholiad y Senedd, bydd tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn cyflwyno eu dadansoddiad o’r rhagolygon cyllidol ar gyfer tymor nesaf y Senedd ac yn dadansoddi goblygiadau cyllidol rhai o brif ymrwymiadau maniffesto. Bydd David Phillips, Cyfarwyddwr Cysylltiol y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, hefyd yn cyflwyno dadansoddiad o opsiynau a pholisïau ar gyfer trethi eiddo yng Nghymru.

Bydd y cyflwyniadau’n ymdrin â:

  • Y rhagolwg cyllidol am y pum mlynedd nesaf yng nghyd-destun cynlluniau gwario Llywodraeth y DG
  • Pwysau cyllido ar wasanaethau cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys effeithiau Covid-19
  • Dadansoddiad o oblygiadau cyllidol prif ymrwymiadau maniffesto'r pleidiau
  • Treth eiddo: opsiynau a chynigion ar gyfer y Senedd nesaf

    Ymunwch â ni am y dadansoddiad pwysig hwn o'r etholiad sydd ar ddod!

Rhannwch y digwyddiad hwn