Representology: Cyfnodolyn y Cyfryngau ac Amrywiaeth
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Cyflwynir gan yr Athro Diane Kemp (Prifysgol Dinas Birmingham) a Dr David Dunkley Gyimah (Prifysgol Caerdydd)
Bydd Syr Lenny Henry, ymgyrchydd, darlledwr a Changhellor (Prifysgol Dinas Birmingham), yn cynnal cyflwyniad i’r cyfnodolyn a sesiwn holi ac ateb gyda K Biswas, golygydd Representology, beirniad a darlledwr, Leah Cowan, cyn Golygydd Gwleidyddol gal-dem, a’r Athro Gwadd Marcus Ryder, Cadeirydd Dros Dro Canolfan Amrywiaeth yn y Cyfryngau Syr Lenny Henry (Prifysgol Dinas Birmingham).
Gwahoddir cwestiynau gan y gynulleidfa yn ystod y digwyddiad.
Mae Representology yn cael ei lansio fel menter ar y cyd rhwng Prifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Caerdydd, Ei nod yw dadansoddi a gweithio gyda phob maes sy’n ymwneud â chynhyrchu cyfryngau, comisiynu ymchwil newydd, a dechrau sgyrsiau ystyrlon am sut i ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan.
Ymunwch â’r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio #representology