Dysgwch am sut i gefnogi eich cymuned drwy ddod yn llywodraethwr ysgol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![A boy puts his hand up in a classroom to answer a question.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2503687/Year-7-pupil-puts-and-up-in-classroom-2021-3-4-16-51-39.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae Governors for Schools yn elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i helpu i sicrhau addysg ragorol i blant mewn ysgolion drwy lywodraethu effeithiol. Rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi ein cynfyfyrwyr i ystyried gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol.
Mae gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol yn ffordd wych o ehangu eich sgiliau a'ch rhwydwaith, adeiladu profiad ar lefel bwrdd a helpu i bennu cyfeiriad strategol ysgol. Mae'n gyfle i weld effaith eich penderfyniadau'n uniongyrchol.
Mae gan filoedd o ysgolion ledled Cymru a Lloegr swyddi gwag ac maent yn chwilio am wirfoddolwyr medrus i wasanaethu fel llywodraethwyr. Fel cynfyfyrwyr, mae gennych y sgiliau a'r arbenigedd y mae cyrff llywodraethu ysgolion yn chwilio amdanynt.
Mae Governors for Schools yn rhedeg gweminar am ddim i gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n byw yng Nghymru a Lloegr i'ch cyflwyno i:
- rôl byrddau llywodraethu ysgolion
- sut y gellir eich paru ag ysgol
- eu cyfleoedd hyfforddi, cyn ac ar ôl i chi gael eich penodi'n llywodraethwr ysgol.
Sesiwn wybodaeth yw hon ac nid oes rhaid i chi wirfoddoli.