Gweithdy 4: Cyfluniadau a Dynameg Ecosystemau Entrepreneuraidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Nod y gyfres hon o weithdai yw rhannu, cyfnewid a datblygu ymchwil a syniadau am yr Ecosystemau Entrepreneuraidd. Mae'n adeiladu ar y prosiect a ariennir gan ESRC ar yr Ecosystemau Entrepreneuraidd ac Arloesedd yn y DU a Japan, trwy ddod â'r safbwyntiau academaidd a pholisi ynghyd i ddysgu am gyd-destunau, arferion a phrofiadau sefydliadol o ystod eang o ecosystemau.
Mae'r papurau a'r ymchwil a gyflwynir yn disgrifio un neu fwy o'r agweddau canlynol ar yr Ecosystemau Entrepreneuraidd: agweddau gofodol, rhwydweithiau, heriau, llywodraethu, polisïau, rolau amrywiol actorion, strwythur, esblygiad, llwyddiant neu fethiant, mesur, datblygu cysyniadol, a themâu cysylltiedig.
Ymhlith y siaradwyr bydd: Ms Michaela Hruskova, Prifysgol Stirling; Dr Fumi Kitagawa, Prifsgol Caeredin; Ms Janna Alvedalen, Prifysgol Lund; Yr Athro Yasuyuki Motoyama, Prifysgol Talaith Ohio.
Sylwch, er mwyn sicrhau diogelwch y digwyddiad bydd angen i chi gofrestru er mwyn derbyn manylion mewngofnodi'r digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar Zoom.
Dyma'r gweithdy cyntaf a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd, Prifysgol Caerdydd sydd newydd ei ffurfio.
Trefnir y gweithdy ar y cyd gan Brifysgolion Caerdydd a Chaeredin:
Dr Dan Prokop
Dr Fumi Kitagawa
Yr Athro Robert Huggins
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.