Gweithdy 5: Ecosystemau Entrepreneuraidd: Cysyniadau a Mesuriadau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Nod y gyfres hon o weithdai yw rhannu, cyfnewid a datblygu ymchwil a syniadau am yr Ecosystemau Entrepreneuraidd. Mae'n adeiladu ar y prosiect a ariennir gan ESRC ar yr Ecosystemau Entrepreneuraidd ac Arloesedd yn y DU a Japan, trwy ddod â'r safbwyntiau academaidd a pholisi ynghyd i ddysgu am gyd-destunau, arferion a phrofiadau sefydliadol o ystod eang o ecosystemau.
Mae'r papurau a'r ymchwil a gyflwynir yn disgrifio un neu fwy o'r agweddau canlynol ar yr Ecosystemau Entrepreneuraidd: agweddau gofodol, rhwydweithiau, heriau, llywodraethu, polisïau, rolau amrywiol actorion, strwythur, esblygiad, llwyddiant neu fethiant, mesur, datblygu cysyniadol, a themâu cysylltiedig .
Ymhlith y siaradwyr bydd: Yr Athro Martin Bliemel, Prifsgol Technoleg Sydney; Yr Athro Martin Obschonka, Prifysgol Technoleg Queensland; Yr Athro Allan O’Connor, Prifysgol De Awstralia; Dr Agata Kapturkiewicz, Prifysgol Rhydychen; Yr Athro Richard Harrison, Prifysgol Caeredin; Yr Athro Hiroyuki Okamuro, Prifysgol Hitotsubashi.
Dyma'r gweithdy cyntaf a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd, Prifysgol Caerdydd sydd newydd ei ffurfio:
Trefnir y gweithdy ar y cyd gan Brifysgolion Caerdydd a Chaeredin:
Dr Dan Prokop
Dr Fumi Kitagawa
Yr Athro Robert Huggins
Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn. Nid oes rhaid talu am y digwyddiad hwn
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.