Cynllunio rhwydweithiau cerdded a beicio (sgwrs ac arddangosiad ryngweithiol)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Bikes](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2500469/Bikes-2021-2-22-11-51-55.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Rydym i gyd yn gwybod bod mynd o le i le ar droed neu ar feic yn wych ar gyfer iechyd, allyriadau carbon a thagfeydd traffig - ond sut allwn ni gynllunio rhwydweithiau teithio sy’n ein gwneud yn fwy egnïol?
Bydd y gweithdy hwn yn dangos yr offer efelychu diweddaraf a ddatblygwyd ar y cyd gan Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth Prifysgol Leeds, a Sustrans - yr elusen sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu gweld canlyniadau arbrofion efelychu ar-lein a ariennir gan gyngor Sir Fynwy.
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ryngweithiol hon i gael gwybod mwy am y prosiect.