Dathliad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llyfrgelloedd Caerdydd Canolog i ddod â diwrnod llawn gweithgareddau a hwyl i chi ddathlu gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Tsieina.
10-11am: Sesiwn Blasu Tsieinëeg
Ydych chi erioed wedi eisiau dysgu Tsieinëeg ond heb fod yn ddigon dewr i ymuno â chwrs iaith? Ymunwch ag un o'n tiwtoriaid iaith profiadol fydd yn cyflwyno rhai o'r nodau Tsieinëeg mwyaf cyffredin i chi yn ogystal â rhai ymadroddion defnyddiol!
12-1pm: Darlith y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Treiddiwch yn ddyfnach i Ŵyl y Gwanwyn wrth i ni eich cyflwyno i rai o'r arferion a’r traddodiadau Tsieineaidd sy'n gysylltiedig â'r dathliad diwylliannol pwysig hwn.
2-3pm: Peintio Tsieineaidd
Dysgwch ychydig am dechnegau Peintio Tsieineaidd traddodiadol wrth i ni eich dysgu sut i ffurfio rhai siapiau sylfaenol. Os oes gennych frwsys paent, papur ac inc caligraffeg neu liwiau dyfrlliw yna mae croeso i chi ymuno!
Gallwch gadw lle ar gyfer un digwyddiad neu'r tri ohonynt drwy ddewis y tocyn perthnasol o'r gwymplen.
Bydd pob digwyddiad yn cael ei ffrydio'n fyw ar Zoom a byddwn yn anfon y dolenni a'r manylion mewngofnodi atoch un diwrnod cyn y digwyddiad.