Ysgol Busnes Caerdydd - Sesiwn Hysbysu dros Frecwast gyda Will Hayward
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Audience](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2492086/Audience-2021-1-28-12-40-29.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Deffroad Ymwybyddiaeth Ddatganoledig Cymru
Daeth Deddf Llywodraeth Cymru i gyfraith 23 o flynyddoedd yn ôl, ond gellir dadlau nad yw Cymru erioed wedi teimlo nerth ei phwerau datganoledig yn fwy nag wrth ddelio â phandemig Covid-19.
Ymunwch â Will Hayward, Golygydd Gwleidyddol Wales Media, awdur y llyfr diweddar “Lockdown Wales” i glywed ei safbwynt ar sut mae Covid-19 wedi deffro ymwybyddiaeth ddatganoledig Cymru.
Bydd hefyd yn cyffwrdd ar ei brofiadau adrodd gydag un o brif ddarparwyr newyddion Cymru, yn ystod y stori newyddion fwyaf ers yr Ail Ryfel Byd, gan rannu mewnwelediadau ar y newidiadau enfawr y mae ei ddiwydiant wedi’u profi. I gloi, bydd hefyd yn canolbwyntio ar y gwersi y gellir eu dysgu o’r argyfwng hwn, yn enwedig wrth ystyried sut y gallai’r gwersi hyn ein helpu i ddelio ag argyfyngau eraill, megis yn yr hinsawdd.
Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).