Cyfieithu Cyfiawn? – Cyfieithu ar y pryd mewn achosion llys - Dr Rhianedd Jewell
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Rôl cyfieithydd ar y pryd yw trosglwyddo gwybodaeth yn ffyddlon ac yn gywir o un iaith i’r llall, ond a ellir gwneud hynny’n hollol niwtral, a beth yw goblygiadau hynny mewn cyd-destun cyfreithiol? Amcan y papur hwn fydd trafod yr heriau penodol y mae cyfieithwyr ar y pryd ac y mae’r sawl sy’n cael eu cyfieithu yn eu hwynebu mewn achosion llys yng Nghymru. Ystyrir cwestiynau megis, i ba raddau y gall y rheithgor a’r beirniad ymddiried mewn cyfieithiad ar y pryd? A yw ffactorau megis lleoliad y cyfieithydd a’i ddewisiadau ieithyddol yn cael dylanwad? Ac a ydy unigolyn yn cael ei drin yn gyfiawn, felly, wrth ddewis defnyddio cyfieithydd ar y pryd?
Traddodir y seminar yma yn Gymraeg.
Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Rhianedd Jewell. Ar ôl cwblhau gradd BA mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg ac Eidaleg) ym Mhrifysgol Rhydychen, aeth Rhianedd ymlaen i gyflawni MSt a DPhil yno ym maes Eidaleg. Pwnc ei doethuriaeth oedd yr awdures Sardeg, Grazia Deledda, a chanolbwyntiodd yn arbennig ar iaith, adroddiant a hunaniaeth yng ngwaith yr awdures hon. Gweithiodd Rhianedd fel Lector Celtaidd Prifysgol Rhydychen cyn dechrau swydd ddarlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012. Ymunodd hi ag Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2013.