Gweminarau Ymchwil Addysg STEM ar sail disgyblaeth: Suazette Reid Mooring
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![CESI speakers](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2491243/Webinar-speakers-collage-002.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae cyrsiau gwyddoniaeth yn hanfodol ar gyfer llwyddiant myfyrwyr fydd yn dilyn graddau meddygol a rhai ar gyfer graddedigion yn y pen draw. Mae cemeg organig yn gwrs arbennig o heriol. Yn nodweddiadol, mae'n cael ei ystyried yn gwrs gwarchod safonau gan fod nifer uchel o fyfyrwyr yn tynnu'n ôl neu’n methu. Mae strategaethau dysgu gweithredol wedi’u cydnabod fel arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n lleihau bylchau cyflawniad mewn sgoriau arholiadau a chyfraddau pasio ar gyfer pob myfyriwr. Er bod pob myfyriwr yn elwa ar strategaethau dysgu gweithredol, mae'n cynnig buddion anghymesur i unigolion o grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol mewn meysydd gwyddoniaeth. Bydd gweithredu ac asesu ystafell ddosbarth wyneb i waered yn cael ei gyflwyno. Bydd yn cynnwys dysgu mewn tîm o dan arweiniad cyfoedion mewn cwrs cemeg organig. Bydd effaith y gweithgareddau hyn ar ganlyniadau gwybyddol ac affeithiol myfyrwyr yn y cwrs hwn yn cael ei chymharu ag effaith cyrsiau traddodiadol. Ar ben hynny, bydd deialog myfyrwyr yn cael ei gyflwyno yn ystod gweithgaredd grŵp mewn dosbarth arall wyneb i waered. Caiff goblygiadau canlyniadau’r astudiaethau hyn ar gyfer ymarfer mewn ystafell ddosbarth eu trafod hefyd.
Rhan o'r Gweminarau Ymchwil Addysg STEM sy'n seiliedig ar Ddisgyblaeth (Ionawr i Fehefin 2021 ar ddydd Mercher 4pm GMT)
Mae'r gweminarau hyn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd / UCL, a drefnwyd gan Andrea Jiménez Dalmaroni (Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a LCN UCL), ac a noddir yn garedig gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol.
Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal trwy zoom.