Pobl ifanc a'u hwyliau a'u lles
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Graphic of young people chatting online](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0018/2490201/Graphic-for-CMHW-mood-and-wellbeing-talks-2021-1-19-16-38-6.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd Rhys yn sôn am hwyliau, lles ac iselder ymysg pobl ifanc - gan gynnwys sut y gallai hwyliau drwg neu iselder ymddangos, rhesymau sylfaenol posibl, a dulliau i atal a rheoli anawsterau. Bydd hyn yn cael ei drafod yng nghyd-destun y person ifanc yn ogystal â'r teuluoedd / gofalwyr.
Bydd hefyd yn trafod rhaglen ddigidol o'r enw 'MoodHwb' i gefnogi hwyliau a lles. Cafodd y rhaglen ei datblygu gyda phobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr ac ymarferwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae treial o'r rhaglen ar y gweill yng Nghymru a'r Alban.
Mae Rhys yn seiciatrydd ac yn ymchwilydd yn yr Adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd.