Clotiau gwaed: problem iechyd ryngwladol ein hoes ni
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae ceulo gwaed yn broses arferol ac mae’n ein hamddiffyn rhag gwaedu’n ormodol. Fodd bynnag, mae llinell denau rhwng gormod a dim digon o geulo a gall y ddau arwain at glefyd difrifol ac yn aml, marwolaeth. Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn gweithio i ddeall yn well sut i reoli ceulo er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r prif glefydau angheuol.
Ymunwch â'r Athro Val O'Donnell, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, a fydd yn trafod sut mae ei thimau'n ymchwilio i glotiau ar draws sbectrwm o afiechydon. Bydd yr Athro Peter Collins, Clinigwr ac Athro Haematoleg, yn ymuno â hi i ddangos sut mae ymchwil yng Nghaerdydd i waedu adeg genedigaeth wedi newid polisi iechyd a gwella bywydau menywod ledled Cymru.