Gweledigaethau o’r Sbaen Gyfoes: Symposiwm rhyngddisgyblaethol i Ôl-raddedigion ac Ymchwiliwr ar Ddechrau eu Gyrfa
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae'r symposiwm hwn yn dwyn ynghyd PGRs ac ECRs o ddisgyblaethau amrywiol sy'n ymchwilio i Sbaen gyfoes a'i chymunedau.
Bydd Sbaenwyr ledled y byd wedi sylwi bod y degawdau diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol dwys yng nghymdeithas Sbaen. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae disgyblaeth astudiaethau Sbaen wedi agor, yn dilyn gwlad sy'n esblygu'n gyson. Cafwyd pedwar etholiad cyffredinol yn y pedair mlynedd ddiwethaf. Hefyd mudiad ffeministaidd cynyddol, diwylliant sinematig sy'n tyfu, mudiadau pwerus ar gyfer ymwahaniaeth a'r mater dadleuol o sut i ymdrin â gorffennol treisgar y wlad. Heb os, mae tirwedd Sbaen wedi cael ei heffeithio'n fawr gan ei hanes sydd yr un mor gyfnewidiol. Mae'r 100 mlynedd diwethaf wedi bod yn dyst i ddiddymu ac adfer brenhiniaeth, genedigaeth gweriniaeth, Rhyfel Cartref eiconig a dwy unbennaeth. Mae nodweddion o'r fath yn gwneud Sbaen yn faes ymchwil hynod ddiddorol.
Mae'r symposiwm hwn yn arddangos gwaith Ymchwilwyr Ôl-raddedig ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa o bob disgyblaeth, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Hanes, Llenyddiaeth, Ffilm a Diwylliannau Gweledol, Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol ac Ieithoedd Modern.
Trefnir y digwyddiad gan Rachel Beaney (AHRC: Prifysgol Caerdydd), Joe Healy (ESRC: Prifysgol Caerdydd) a Tom Wardle (AHRC: Prifysgol Southampton).
Prif siaradwyr
Y prif siaradwyr yw Dr Fraser Raeburn (Prifysgol Sheffield) a Dr Caroline Gray (Prifysgol Aston).
Rhaglen
Mae rhaglen y symposiwm ar gael.
Cofrestru
Cofrestrwch eich presenoldeb erbyn hanner dydd Iau 14 Ionawr.
Twitter
Mae tudalen Twitter ar gyfer y gynhadledd.
Cyfieithu ar y prydBydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 8 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Recordio'r digwyddiad
Sylwch, bydd y digwyddiad yn cael ei recordio.