Iechyd Meddwl a Phandemig COVID-19
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Sci in Health branding](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2479146/SiH-Public-Lecture-series-2020-11-23-14-24-48.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae argyfwng COVID-19 yn herio pawb a bydd pobl yn ymateb i'w profiadau mewn ffyrdd gwahanol. Mae ymatebion cyffredin, normal wedi cynnwys emosiynau cadarnhaol fel ymdeimlad o undod a gobaith, ynghyd ag emosiynau negyddol fel gorbryder a hwyliau isel.
Mae rhai pobl wedi datblygu ymatebion mwy difrifol, gan gynnwys galar, anhwylderau gorbryder, iselder ac ôl-drawmatig.
Bydd Yr Athro Jon Bisson yn disgrifio’r hyn yr ydym yn ei wybod ar hyn o bryd ac yn cyflwyno gwaith Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, ar sail Prifysgol Caerdydd, sydd â’r nod o roi dealltwriaeth fwy o effaith COVID-19 ar bobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl.