Ffenomenoleg Cadw Pellter Cymdeithasol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Photo of Havi Carel](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2472293/Professor-Havi-Carel-2020-10-28-13-11-31.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yn y sgwrs hon, mae Yr Athro Havi Carel (Prifysgol Bryste) yn dadlau bod cyfyngiadau diweddar sydd â'r nod o atal trosglwyddo COVID-19 wedi cael effaith ddwys ar ein bydoedd personol a chymdeithasol. Gan ddefnyddio syniadau ffenomenolegol allweddol, megis bod yn y byd, bod gyda, deallusrwydd ein byd a rennir, a pha mor ganolog yw cyffwrdd ac ymgorfforiad yn ein profiad, mae Carel yn awgrymu bod cadw pellter cymdeithasol wedi amharu'n fawr ar ein profiad o ddydd i ddydd, gan achosi newidiadau sylweddol i'r ffyrdd yr ydym yn byw yn ein byd cymdeithasol a chorfforol. Mae hi'n gorffen trwy nodweddu'r newidiadau hyn fel ansicrwydd byd-eang: colli ymddiriedaeth neu hyder a oedd unwaith yn gyn-fyfyriol sy'n cwmpasu profiad rhywun o'r byd yn ei gyfanrwydd.
Mae Havi Carel yn Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Bryste, lle mae'n addysgu myfyrwyr athroniaeth a myfyrwyr meddygol. Cyrhaeddodd ei llyfr Illness restr fer Gwobr Llyfr Wellcome 2009 ac mae bellach wedi'i gyhoeddi yn ei drydydd argraffiad.
Mae hi hefyd yn awdur Phenomenology of Illness (2016) a Life and Death in Freud and Heidegger (2006), ac yn gyd-olygydd Health, Illness and Disease (2012), New Takes in Film-Philosophy (2010), a What Philosophy Is (2004). Mae hi wedi bod yn Uwch Ymchwilydd Ymddiriedolaeth Wellcome, yn Gymrawd Canol Gyrfa’r Academi Brydeinig, ac yn Gymrawd Leverhulme.
Cyflwynir y ddarlith hon ar-lein a bydd cwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn.
I gael rhagor o fanylion, gweler: http://www.publicphilosophycardiff.co.uk