Dyfodol gofal yng Nghymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Disgwylir i ofal cymdeithasol oedolion hŷn fod yn fater allweddol yn y blynyddoedd i ddod, wrth i ffactorau fel demograffeg, cyllid cyhoeddus a phandemig Covid-19 ddod ynghyd i greu rhagolwg heriol. Ar yr un pryd, mae cwestiynau ynghylch sut i ariannu'r sector yn debygol o fod o ddiddordeb sylweddol i etholwyr Cymru a'r pleidiau gwleidyddol wrth i etholiadau y Senedd ddynesu.
Mae uned Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnal y seminar ar-lein hon. Mi fyddant yn cyflwyno eu hymchwil ddiweddaraf ar ofal cymdeithasol, a thrafod y canfyddiadau gyda dau arbenigwr allweddol; Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a Lance Carver, ADSS Cymru.