I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr (Byw!) - Arloesedd Digidol yn ystod Cyfnod o Argyfwng
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gwrandewch ar y sgwrs hon a arweinir gan gynfyfyrwyr, gyda George Bellwood (BA 2019) a Mared Jones (BA 2015, MA 2017), wrth iddynt drafod sut maent wedi defnyddio arloesedd digidol wrth ymateb i COVID-19. Y sgwrs hon yw’r ddiweddaraf yn ein cyfres FABA (Fyw!) o ddigwyddiadau, lle rydym yn trosglwyddo'r gwe-gamerâu i'n cynfyfyrwyr drafod pynciau sydd o ddiddordeb i gymuned Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod y cyfnod clo, sylweddolodd Mared Jones faint o bobl sy’n anymwybodol o bwerau datganoledig Cymru, ac sy’n dilyn canllawiau Lloegr yn ddiarwybod. Creodd hi Welsh Devolution: Explained, cyfrif Instagram i helpu i rannu gwybodaeth a newyddion perthnasol.
George Bellwood yw CEO a Chyd-sefydlydd Virtus Tech Cyf., sef cwmni yng Nghaerdydd sy’n darparu platfformau tywys digidol drwy ddefnyddio technoleg rithwir a chyfryngau digidol. Ers COVID-19, maent wedi ymaddasu’n gyflym i gefnogi busnesau, gan lansio cynnyrch newydd i fynd i’r afael â’r set benodol hon o heriau.