O’r Fferm i’r Fforc: Cynulliad y Werin
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Field to Fforc video thumbnail](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2472192/thumbnail.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ymunwch â ni i ddychmygu a thrafod dyfodol systemau bwyd yn ninas-ranbarth Caerdydd.
Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn adeiladu ar nifer o Gynulliadau’r Werin ar fwyd a ffermio a gynhaliwyd ledled Cymru ers dechrau’r cyfnod clo.
Mewn ymateb i alwadau am gyfranogiad ledled cymdeithas i gyd-greu dyfodol System Fwyd yng Nghymru, nod y digwyddiad hwn yw creu gofod ar gyfer deialog gyhoeddus a phroses ddemocrataidd gydgynghorol o gwmpas dyfodol system fwyd dinas-ranbarth Caerdydd.
Fel y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE), rydyn ni wedi bod yn cofnodi effeithiau’r pandemig ar y system fwyd, gan weithio gyda phobl amrywiol ar draws system fwyd Cymru sy’n ymateb i’r argyfwng.
Mae’r gwaith hwn yn cysylltu â rhaglen ymchwil PLACE, sydd â’r nod o ddefnyddio dull cyfannol ac integredig i archwilio rhyngweithiadau bwyd yn seiliedig ar le.