Cyflymu Cyfrifiadureg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd Hwb Technocamps Caerdydd yn yr Ysgol Cyfrifidureg a Gwybodeg yn lansio rhaglen Cyflymu Cyfrifiadureg ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 ar draws Cymru sydd yn astudio Cyfrifiadureg.
Byddwn yn darparu sessiynnau adolygu AM DDIM i ddisgyblion Cyrifiadureg Blwyddyn 11 yn ystod hanner tymor mis Hydref a mis Chwefror. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarparu gan addysgwr Cyfrifiadureg profiadol sydd gyda profiad sylweddol o ddysgu ac arwain Cyfrifiadureg TGAU CBAC.
Yn ystod sessiynnau ym mis Hydref, bydd y disgyblion yn edrych ar y pynciau sydd yn ymwneud ag Uned Un, ac yn edrych ar Asesiad Amcan Un o fanyleb CBAC ar gyfer TGAU Cyfrifiadureg: “dangos dealltwriaeth o, a deall, prif gysyniadau ac egwyddorion Cyfrifiadureg”. Dros 2 ddiwrnod bydd y gweithdai yn cynnwys:
- Edrcyh ar pob elfen o fanyleb Uned Un
- Edrych ar sail pob un o’r elfennau hyn
- Cefnogi’r disgyblion wrth iddynt greu nodiadau adolygu ar pob uned sydd yn cael ei drafod.
Dyddiadau
Hydref 26ain a 27ain
Amser
9.30 – 10.00 Cofrestru ar-lein
10.00 – 14.30 Gweithdai (toriad o 1/2 awr am ginio)
Rhifau
Mae’r digwyddaid yma am ddim i’r dysgwyr. Fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly gofynwn yn garedig i chi gofrestru dim ond os gallwch ymrwumo i’r amseroedd penodedig ar y ddau ddiwrnod.
Ymwrthodiad
Nid yw’r digwyddiad yma wedi ei gefnogi gan CBAC mewn unrhyw ffordd. Mae barnau’r cyflwynydd yn rai personol. Nid yw’r cyflwynydd na’r Brifysgol yn gyfrifol am ganlyniadau arholiad disgyblion nag am ddylanwad y sessiynnau ar gyflawniad y disgyblion. Mae’r sessiynnau yn cael eu darparu i roi cymorth ychwanegol i’r disgyblion ochr yn ochr gyda’r hyn maent yn ei dderbyn yn yr ysgol.