Bwydlun o obaith: Economi sylfaenol Bwyd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Archwilir egwyddorion yr economi sylfaenol fodern a'i rôl o ran adnewyddu dinasyddiaeth a llywio polisi cyhoeddus am y tro cyntaf yn y casgliad addysgiadol hwn. Gan herio meddwl cymdeithasol ac economaidd y brif ffrwd, mae'n dangos sut gall arbrofion economi sylfaenol ar wahanol raddfeydd feithrin arloesedd cymdeithasol radical drwy ddefnydd cyfunol, yn hytrach na phreifat. Mae grŵp rhyngddisgyblaethol o academyddion Ewropeaidd uchel eu parch yn darparu astudiaethau achos o fentrau ac ymyriadau sy'n ymwneud â sylfeini polisi gan gynnwys tai, cyflenwadau bwyd a rheoli dŵr a gwastraff. Maent yn adeiladu sylfaen dystiolaeth ddoeth o berthnasedd cynyddol meddwl economaidd sylfaenol a'i botensial i ddarparu rhagolygon gwleidyddol a chymdeithasol newydd ar gymdeithas sifil a chyfiawnder cymdeithasol.
I ofyn am y cyfrinair Zoom, anfonwch ebost at westeiwr y seminar, Dr Crispian Fuller (fullerc2@caerdydd.ac.uk)