Tai Chi
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Tai Chi Tsieineaidd yn fath hynafol a phrydferth o gelf yn ogystal â ffordd o gadw’n iach. Datblygwyd yn wreiddiol fel crefft ymladd, ond mae Tai Chi yn cael ei ymarfer ar draws y byd erbyn hyn i hyrwyddo iechyd a lles gan ei fod yn cyfuno anadlu’n ddwfn ac ymlacio gyda symudiadau llifol.
Ymunwch â ni am fore hamddenol a digynnwrf, wrth i ni archwilio rhai o ystumiau sylfaenol Tai Chi, a'r ystyr y tu ôl iddynt. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu'n dair rhan:
Rhan 1: Ffurf i Ddechrau
Rhan 2: Rhannu Mwng y Ceffyl Gwyllt ar y Ddwy Ochr
Rhan 3: Craen Gwyn â'i Adenydd ar Led
Sesiwn ar-lein yw hon fydd yn cael ei gynnal ar Zoom. Y cwbl fydd ei angen arnoch i gymryd rhan yw cysylltiad da â'r rhyngrwyd, dillad cyfforddus, a lle i symud. Cofrestrwch ymlaen llaw ar ein tudalen Eventbrite, a byddwn yn ebostio manylion i chi am sut i ymuno y diwrnod cynt.