Bore Celf a Chrefft Tsieineaidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Yn y sesiwn hwyl a rhyngweithiol hon byddwn yn eich dysgu sut i greu gwaith papur Tsieineaidd yn ogystal ag ychydig o dechnegau peintio Tsieineaidd traddodiadol. Mae'r sesiwn hon ar gyfer teuluoedd, ond mae croeso i bawb gymryd rhan.
Rhan Un: Torri Papur Panda
Beth sydd ei angen wrth gymryd rhan o gartref: Beiro, papur lliw, siswrn
Rhan 2: Peintio Traddodiadol Tsieineaidd - Cwningod Diwrnod Canol yr Hydref
Beth sydd ei angen wrth gymryd rhan o gartref: Brwshys paent caligraffeg neu ddyfrlliw, papur xuan neu ddyfrlliw, inc caligraffeg neu baent dyfrlliw
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein ar Zoom. Cofrestrwch ymlaen llaw ar ein tudalen Eventbrite, a byddwn yn ebostio manylion i chi ar sut i ymuno ar y diwrnod cynt.