Diwrnod Ada Lovelace - Digwyddiad Ar-lein i Ysgolion Uwchradd a Cholegau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Ada Lovelace Day Online October 14th, 2020](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2446816/Ada-Lovelace-Day-2020-9-16-10-59-8.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflwyno diwrnod Dathlu Ada Lovelace. Rydym yn gwahodd myfyrwyr dros 15 oed sydd â diddordeb mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn ogystal â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig Cyfrifiadureg a Pheirianneg o Brifysgolion Nottingham a Chaerdydd.
Ymunwch â ni am ddiwrnod cyffrous gyda siaradwyr anhygoel o’r byd academaidd, a helfa drysor rithwir hwyliog!