Beth ddigwyddodd yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 2019?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2019 gwelwyd y Blaid Lafur yn colli tir yng Nghymru mewn modd nas gwelwyd yng Nghymru ers cenedlaethau. Plaid Geidwadol Boris Johnson elwodd ar drafferthion Llafur. Ond pwy newidiodd eu pleidlais a pham? Ac i bra raddau mae’r canlyniad yn arwyddo newid parhaol yn nhirwedd gwleidyddol Cymru? Bu tîm Astudiaeth Etholiad Cymru 2019 yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones, yn cynnal arolwg mawr o etholwyr yng Nghymru cyn ac ar ôl yr etholiad a dyma gyfle i glywed eu dadansoddiad o’r canlyniad a’i harwyddocad.