Cynllun "C": COVID a Chreadigrwydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Audience watches music symposium event.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0019/2432332/Plan-C-school-of-Music-event-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Sut allwn ni gadw a hyd yn oed cyfoethogi ein harferion creadigol yn y 'normal newydd' ar ôl COVID?
Bydd y sesiwn symposiwm hon yn cyflwyno rhai cwestiynau ymarferol. Mae'n cynnig platfform bywiog i fyfyrwyr a phobl broffesiynol o dri sefydliad addysgol gyda hanes cydweithio cryf (Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Raffles, Singapore; a PGVIM) i gyflwyno a chyfnewid syniadau. A bydd hefyd yn cyflwyno prosiectau creadigol sy’n deillio o COVID-19 fydd yn parhau ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben.
Mae'r sesiwn yn cael ei noddi gan Gangen De-ddwyrain Asia y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol, a bydd:
- Dr Monika Hennemann (Prifysgol Caerdydd)
- Dr Ruth Rodrigues (Sefydliad Raffles, Singapore)
- Dr Anothai Nitibhon (PGVIM, Bangkok) yn ei chadeirio.