Adeiladu dyfodol cadarnhaol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn ganolfan aml-ddisgyblaethol sy’n gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru gan ganolbwyntio ar ddeall yr hyn sy'n achosi gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae hefyd yn gweithio gydag ysgolion i greu ymyriadau cynnar i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y cymorth a'r cyngor cywir a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Bydd yr Athro Rice yn trafod ei hymchwil i orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc gan edrych ar ddylanwadau genetig, cymdeithasol a rhwng cenedlaethau. Mae'r Athro Murphy yn trafod rôl ysgolion, sut gall y Ganolfan weithio gyda nhw i gefnogi pobl ifanc, - a sut gellir defnyddio eu canfyddiadau i wneud newidiadau ar draws Cymru, y DU a ledled y byd.