Cyngor Gwyddonol – Beth sy'n gweithio mewn Argyfwng?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Cyflwyniad
Yn 2019, cynhaliodd y Comisiwn Ewropeaidd adolygiad o arferion gorau mewn rhoi cyngor gwyddonol, gan gyhoeddi cyfres o adroddiadau allweddol. Roeddent yn cynnwys y Ganolfan Ymchwil ar y Cyd a’r Grŵp o Brif Gynghorwyr Gwyddonol, ynghyd ag adolygiad tystiolaeth cynhwysfawr gan gonsortiwm academïau Ewrop, SAPEA, a gydlynwyd gan Academia Europaea. Yn fwy diweddar, mae'r Cynghorwyr a'r Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg mewn Gwyddoniaeth a Thechnolegau Newydd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar gyngor gwyddonol yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Ynghylch y gweminar
Yn y gweminar 90 munud hwn, bydd prif gynghorwyr gwyddonol, arbenigwyr a staff y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried pa mor effeithiol y mae Ewrop yn ymateb i'r her a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Byddant yn rhannu profiadau ymarferol o roi cyngor gwyddonol yn wyneb cymhlethdod, ansicrwydd a gwelededd cyhoeddus digynsail yn ystod cyfnod y Coronafeirws; yn ogystal â'r ffordd orau o gymhwyso fframweithiau ac arferion rhoi cyngor gwyddonol i sicrhau mwy o wytnwch yn dilyn Covid-19.
Ein panel o siaradwyr
- Pearl Dykstra, Dirprwy Gadeirydd, Grŵp y Prif Gynghorwyr Gwyddonol
- Ortwin Renn, Cadeirydd Gweithgor SAPEA ar Wneud Synnwyr o Wyddoniaeth ar gyfer Polisi
- David Mair, Pennaeth Uned, Canolfan Ymchwil ar y Cyd
- Christiane Woopen, Cadeirydd y Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg mewn Gwyddoniaeth a Thechnolegau Newydd
- Janusz Bujnicki, Aelod diweddar o'r Grŵp o Brif Gynghorwyr Gwyddonol; ar hyn o bryd yn aelod o'r bwrdd cynghori gwyddonol ar COVID-19 i lywodraeth Gwlad Pwyl
- Tarmo Soomere, Rhwydwaith Cynghorwyr Gwyddonol Ewropeaidd
Bydd y gweminar yn cael ei gymedroli gan yr Athro Ole Petersen, Is-Lywydd Academia Europaea a Chyfarwyddwr Hwb AE Caerdydd, a'i gynnal gan SAPEA.
Rhagor o wybodaeth am Wythnos Deialog Fyd-eang INGSA
Mae’r gweminar yn rhan o Wythnos Deialog Fyd-eang INGSA o’r teitl ‘Cyngor Gwyddonol a COVID-19: Beth ydym ni'n ei ddysgu?’ a gynhelir rhwng 14 a 18 o Fedi 2020. Dr Soumya Swaminathan, Prif Wyddonydd Sefydliad Iechyd y Byd, fydd y prif siaradwr ar gyfer yr Wythnos Deialog Fyd-eang. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau i'w gweld yma.
Rhagor o wybodaeth am waith AE Caerdydd ym maes Cyngor Gwyddonol
Fel aelod o gonsortiwm academïau Ewropeaidd (SAPEA), cydlynodd Academia Europaea adolygiad tystiolaeth allweddol ar arferion gorau mewn rhoi cyngor gwyddonol. Mae'r adroddiad, Making Sense of Science for Policy, ar gael yma.