Ymchwil Canser yn ystod pandemig COVID-19
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae cyfyngiadau ar fynediad at labordai oherwydd COVID-19.
Beth mae hyn yn ei olygu i ymchwil canser?
Ymynwch a ni ar gyfer y gweminar BYW hwn gyda rhai o Ymchwilwyr Canser Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdyff i gael cysur o glywed am ein hymdrechion i barhau ag ymchwil canser yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys sgyrsiau byr a'r gwyddonwyr canlynol ynghylch eu profiad o weithio yn ystod y pandemig -
Yr Athro Andy Godkin
Lorenzo Capitani (Myfyriwr PhD)
Dr Sarah Lauder
Mae'r gwyddonwyr, sydd wedi'u lleoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn trfod yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno, beth maen nhw wedi'i gyflawni a sut wnaethon nhw lwyddo i wneud hynny?
Yn ystod y sesiwn awr ginio hon, ceir digonedd o gyfleoedd i ymgysylltu a'n hymchwilwyr a gofyn llawer o gwestiynau.
I gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad, ebostiwch - medicengagement@caerdydd.ac.uk ar bob cyfrif.
Mae'r gweminar hwn wedi'i anelu at gleifion canser a'u teuluoedd. Serch hynny, mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb mewn ymchwil ganser neu ymchwil wyddonel yn gyffredinol ymuno a ni.
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan yr Athro Awen Gallimore, Arweinydd Thema Canser, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Prifysgol Caerdydd