Arloesi yng Nghymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Wrth i Gymru adfer ar ôl COVID-19, bydd arloesedd yn hollbwysig.
Mae canolbwynt newydd ar gyfer datblygu busnes - CardiffInnovations@sbarc I spark - yn cynnig lle i dyfu syniadau a fydd yn dod yn fusnesau newydd, sgîl-gynhyrchion, busnesau myfyrwyr a mentrau cymdeithasol.
Ymunwch â ni mewn gweminar ddydd Mercher 15 Gorffennaf am 11am i gael rhagor o wybodaeth am y manteision gall eich sefydliad gael o Arloesedd Caerdydd @ sbarc | spark.
Bydd y ganolfan yn cael ei chynnal yn sbarc I spark - y cyfleuster arloesedd mwyaf o'i fath yng Nghymru, sy’n cynnig ystod o fannau arloesi, swyddfeydd a labordai.
Bydd yn cydleoli ochr yn ochr ag arbenigwyr o SPARK - casgliad o 11 o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n arwain astudiaethau arloesol sy'n ffurfio cymdeithas.
Bydd y digwyddiad ar ffurf seminar trwy Microsoft Teams gyda meicroffon pawb sy’n gwrando wedi’i dewi.
Ceir mynediad yn rhad ac am ddim trwy'r ddolen isod, ac mae’n agored i'ch aelodau.
Bydd y sesiwn yn clywed gan:
- Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol, Prifysgol Caerdydd, a fydd yn amlinellu manteision Arloesedd Caerdydd @ sbarc | spark;
- Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth;
- Stuart Gall, Prif Swyddog Gweithredol Intelligent Ultrasound - arloeswr partner gyda Phrifysgol Caerdydd;
- Yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK.
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau wedi'u teipio ar ddiwedd y sesiwn, ac i gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad wrth iddo agosáu at gael ei gwblhau
Cadwch eich lle yma:
https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-innovations-sbarc-i-spark-tickets-108864049302