O ganser i COVID-19: allwn ni harneisio firysau er gwell?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Dr Alan Parker yn trafod ei ymchwil sy’n ymchwilio sut mae firysau cyffredin yn heintio ein celloedd iach, ac a allwn ni eu hail-hyfforddi i ymosod ar a lladd celloedd canser. Mae Dr Parker a’i dîm yn chwilio am ffyrdd i ddeall firysau yn well a’u peiriannu i ddatblygu firotherapïau.
Ymuna Dr Carly Bliss â Dr Parker i drafod ei gwaith yn datblygu firysau wedi’u teilwra fel brechlyn ar gyfer clefydau heintus, a sut mae’r tîm yng Nghaerdydd wedi treulio’r misoedd diwethaf yn targedu eu maes ymchwil arbenigol i ymuno yn y ras fyd-eang i gyflwyno brechlyn ar gyfer COVID-19.