Gwyddoniaeth mewn iechyd ar-lein!
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn galw ar holl ddisgyblion Gwyddoniaeth blwyddyn 12.
Wyddoch chi y gall cariad at wyddoniaeth fynd â chi lawr sawl llwybr gyrfa?
Hoffech chi ddysgu am y gwahanol ffyrdd y gall gwyddoniaeth weithio? Beth am gael y cyfle i holi ymchwilwyr sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd ymchwil iechyd? Eisiau ychydig o naratif i’ch cefnogi i lenwi’ch ceisiadau UCAS?
Os IE yw’r ateb.....ymunwch â ni, y tîm Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer sesiwn ar-lein ryngweithiol BYW lle byddwch yn:
- Dewch i gwrdd ag ystod o ymchwilwyr (gan gynnwys gwyddonwyr sy’n gweithio ar COVID 19)
- Cymerwch ran mewn cwis gwyddoniaeth ar-lein gyda gwobrau talebion Amazon ar gyfer y rheiny yn y 1af, 2il a’r 3ydd safle
- Holwch banel o arbenigwyr (gan gynnwys israddedigion meddygol, myfyrwyr PhD, Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, staff Derbyniadau)
- Dewch i weld y tu mewn labordy ac arbrawf ar waith.