Criminal Courts and Covid-19 in Wales
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Arbedwch i'ch calendr
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi Gweminar Cyhoeddus i drafod y llysoedd troseddol yng Nghymru yn sgil Covid-19.
Bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i’r newidiadau sylweddol a brys i lysoedd troseddol sydd wedi mynd i graidd rhai o agweddau sylfaenol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn clywed gan fargyfreithiwr a chyfreithiwr ac gan Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr am effeithiau newidiadau diweddar ar ddioddefwyr trosedd.
Panelwyr:
- Dr Huw Pritchard (Canolfan Llywodraethiant Cymru)
- Jonathan Rees QC (Jonathan Rees QC (Siambrau Apex)
- Y Fonesig Vera Baird QC (Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr)
- Katy Hanson (Rheolwr Gyfarwyddwraig, Welch & Co)
Rydym yn cymryd cwestiynau ymlaen llaw i helpu hwyluso'r digwyddiad. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau mewn ymateb i'r pwyntiau a wneir gan y panelwyr. Fodd bynnag, os ydych am gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch ef at PritchardH3@cardiff.ac.uk erbyn 10am ddydd Mawrth 30 Mehefin.