Yr Hyn y mae Cynulleidfaoedd ei Eisiau o Realiti Rithwir (VR) Diwylliannol ac Adloniant
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Egluro taith realiti rhithwyr y gynulleidfa a deall beth sy'n gwneud prosiectau'n llwyddiannus gyda'r cyhoedd. Caiff y seminar ei gyflwyno gan Catherine Allen o Limina, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant a Chanolfan y Diwydiannau Creadigol a Pholisi.
Darperir lluniaeth a chyfleoedd rhwydweithio!
Yr Hyn y mae Cynulleidfaoedd ei Eisiau o Realiti Rithwir (VR) Diwylliannol ac Adloniant
Gan ddefnyddio tair blynedd o ddata cynulleidfa a llwythi o enghreifftiau o fywyd go iawn, bydd y seminar hon yn agor eich llygaid i VR o bersbectif aelodau posibl o'r gynulleidfa-gan ganolbwyntio ar gynulleidfaoedd mwy newydd nad ydynt yn ddefnyddwyr VR profiadol.
Yn wahanol i fathau eraill o gyfryngau, nid yw creawdwyr wedi tyfu i fyny gyda diwylliant cynulleidfa ynghylch y cyfrwng hwn o’u cwmpas. Fel defnyddwyr y cyfryngau, rydym i gyd wedi gweld cannoedd o bobl drwy gydol ein bywydau yn y sinema, rydym wedi cyfnewid syniadau gyda dwsinau o gydweithwyr am y teledu neithiwr ac rydym wedi bod i gyngherddau ac wedi arsylwi ar adweithiau cannoedd o gariadon cerddoriaeth eraill.
Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o greawdwyr hyd yma wedi gweld y lefel hon o adborth gan gynulleidfaoedd a diwylliant gyda VR, dim ond oherwydd ei fod mor newydd ac nad yw'n rhan o'r brif ffrwd eto. Yr ateb yw bod yn rhagweithiol gan ddeall eich defnyddiwr terfynol a chau'r ddolen adborth mewn modd ymwybodol.
Bydd y seminar hon yn rhannu mewnwelediad eang a dwfn o'r gynulleidfa o dair blynedd o 'ddangosiadau VR' i tua 15,000 o aelodau cynulleidfa.
Byddwn yn cwmpasu:
- Cipolwg ar farchnad y DU a dadansoddiad SWOT
- Yr Hyn y mae aelodau cynulleidfaoedd VR ei eisiau o'u profiadau VR cyntaf. Rydyn ni'n galw hwn yn gynnwys 'porth'
- Sut i becynnu a gwerthu'r profiad iddyn nhw (waeth a yw'n rhad ac am ddim ai peidio)
- Y rhwystrau personol a chymdeithasol y mae'n debygol y bydd gan aelodau'r gynulleidfa, a sut i oresgyn y gwrthwynebiadau a'r pryderon hynny
- Sut i annog ymwelwyr sy'n dod yn ôl droeon, adolygiadau cyfryngau cymdeithasol gwych ac argymhellion gan bobl eraill
Disgwylwch adael y seminar gydag empathi a dealltwriaeth wirioneddol o aelodau’r gynulleidfa sy’n fwy newydd i VR (77% o’r boblogaeth), ynghyd â gwybodaeth ymarferol ar sut i adeiladu cynulleidfaoedd ar gyfer VR diwylliannol ac adloniant.
Cenhadaeth Limina
Mae ffurf gelfyddydol newydd yn dod i'r amlwg, ac mae Limina am ei meithrin i fod yn rym creadigol er daioni drwy fynd i'r afael â segment o'r farchnad sy'n cael ei danwasanaethu ac yn byrlymu â chyfle; cynulleidfaoedd prif ffrwd y celfyddydau a diwylliant. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgynghoriaeth arbenigol a thrwy weithio gyda sinemâu, theatrau, gwyliau, atyniadau ymwelwyr a lleoliadau celfyddydol i'w helpu i ddod â phrofiadau VR diwylliannol o safon uchel i'w cynulleidfaoedd ar ffurf arddangosfa gynhwysol wedi'i datblygu'n arbennig.
Darllenwch 'Immersive media in the UK: reaching present-day audiences should not be an afterthough' gan Catherine Allen a Chris Sizemore o Limina Immersive.
Two Central Square
Caerdydd
CF10 1FS