Grŵp Ymchwil i Ymfudo, Ethnigrwydd, Hil ac Amrywiaeth (MEAD) Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Mis Hanes Menywod digwyddiad arddangosfa weledol o ddarluniau.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ar 16 Mawrth 2020, bydd y Grŵp Ymchwil i Ymfudo, Ethnigrwydd, Hil ac Amrywiaeth (MEAD) yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Mis Hanes Menywod gydag arddangosfa weledol o ddarluniau, gan bobl academaidd ac anacademaidd. Themâu’r delweddau yw:
- ymchwil yn ymwneud â menywod
- profiadau o weithio gyda menywod neu o’u cefnogi
- profiadau fel ymchwilydd benywaidd
- methodolegau ffeministaidd
Bydd cerddoriaeth gan Gôr Oasis y Byd, darlleniadau ffeministaidd, a’r cyfle i siarad â’r rhai a gyflwynodd y delweddau, ac i gael trafodaethau gyda’r rhai eraill sydd â diddordeb mewn unrhyw rai o’r themâu uchod.
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ