Cyngerdd Dathlu 400 Mlynedd ers geni Isabella Leonarda
Dydd Gwener, 20 Mawrth 2020
19:00-21:00
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Wedi'i ffurfio gan eu cyfarwyddwr cerdd Peter Leech yn 2008, mae Cappella Fede (a enwyd ar ôl Innocenzo Fede, maestro di cappella o Gapel Catholig Llundain y Brenin Iago II), yn cynnwys perfformwyr sy'n gweithio gydag ensemblau lleisiol ac offerynnol cyfnod gorau'r DU. Mae’r perfformwyr wedi arbenigo mewn cerddoriaeth grefyddol a seciwlar o c.1650- c.1790. Maent ar y brig o ran yr ymchwil cerddolegol diweddaraf. Maent wedi perfformio ystod eang o weithiau gan gynnwys perfformiadau modern cyntaf o weithiau baroc a ddarganfyddwyd yn ddiweddar, a darnau o’r cyfnod clasurol cynnar fel gan gyfansoddwyr tebyg i Innocenzo Fede, Sebastiano Bolis, Antonio Cossandi, Thomas Kingsley SJ, Miguel Ferreira, Antoine Selosse SJ, Niccolò Jommelli a Giovanni Battista Costanzi. Buont yn rhoi cyngherddau yn Lerpwl, Dyrham, Henffordd, Llundain a Rhufain, a llawer man arall.
Disgrifiwyd eu CD The Cardinal King (Toccata Classics) ar Radio Review Radio3 fel: ‘a consort singing second to none’. Mae’r cyngerdd yma yng Nghaerdydd yn cynnwys cerddoriaeth lleisiol nodedig i ddathlu 400 mlynedd ers geni’r lleian a’r gyfansoddwraig Isabella Leonarda
Teml Heddwch
Temple of Peace
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3AP
Temple of Peace
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3AP