Ysgol Busnes Caerdydd - Sesiwn Hysbysu dros Frecwast - Sut mae Llywodraethau’n defnyddion ein data?
Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2020
08:00-09:30
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Tuag at Archwilio Democrataidd: Cyfranogiad Dinesig yn y Gymdeithas Sgorio Yn fyd-eang, mae llywodraethau yn cynyddu eu lefelau o gasglu, defnydd a rhannu data dinasyddion. Mae’r ffyrdd y gall systemau newydd o gategoreiddio, asesu risg, didoli cymdeithasol a rhagfynegi, ddylanwadu ar benderfyniadau cyllido ac adnoddau, mynediad at wasanaethau, dwysau gwyliadwriaeth a chynyddu anghydraddoldeb, yn destun pryder mawr. Er gwaethaf cydnabyddiaeth eang o’r risgiau a ddaw gyda systemau data newydd, mae bron yn amhosib i ddinasyddion ddod yn gyfarwydd â, ac i ymgysylltu â’r, systemau data sy’n effeithio arnyn nhw. Yn y sgwrs hon, bydd Joanna Redden yn amlinellu’r hyn mae’r Data Justice Lab wedi bod yn gwneud i ymchwilio i oblygiadau newid arferion data’r llywodraeth yn y DU, yn ogystal â’r newidiadau sydd eu hangen i hyrwyddo cyfranogiad dinasyddion. Bydd y sgwrs yn rhoi trosolwg o’r prosiect Data Scores as Governance, oedd yn cynnwys mapio a dadansoddi arferion data newidiol llywodraeth y DU. Bydd Joanna hefyd yn manylu ar ganfyddiadau cynnar prosiect cyfredol y Lab, sy’n ymchwilio sut y gallwn hyrwyddo cyfranogiad ein cymdeithasau sy’n cynyddol llawn data.
Ystafell Addysg Weithredol, 3ydd Llawr
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU