Yr Athro Michael Hornsby, UAM Poznań, Gwlad Pwyl: Dinasoedd fel safleoedd adnewyddu a thrawsnewid ieithoedd lleiafrifol: Enghreifftiau o Lydaw a Lusatia
Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2020
13:00-14:00
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn yr un modd â llawer o ieithoedd lleiafrifol eraill, mae Llydaweg (Llydaw, Ffrainc) a Sorbeg Isaf (Lusatia, yr Almaen) yn mynd trwy ymdrechion adfywio er mwyn atal y golled yn nifer siaradwyr yr ieithoedd hyn. Mae gan y ddwy iaith hyn gadarnleoedd amlwg - Llydaw Isaf (yng ngorllewin Llydaw) a Lusatia Uchaf (De Lustatia), lle mae'r ganran uchaf o siaradwyr brodorol yr ieithoedd hyn i'w canfod o hyd. Mewn cyferbyniad, mae cymunedau llawer llai (ond arwyddocaol) o siaradwyr i'w cael y tu allan i'r cadarnleoedd hyn, yn enwedig yn ardaloedd trefol Rennes a Nantes (Llydaw Uchaf) a Cottbus (Lusatia Isaf). Mae’r cymunedau iaith llai hyn yn cynnwys nifer llethol o siaradwyr ‘newydd’ Llydaweg a Sorbeg.
Mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio'r amodau sy’n hwysluso dilysrwydd ymhlith y siaradwyr newydd hyn, yn enwedig gan ystyried tensiynau cyfredol ynghylch pwy sy'n cyfrif fel siaradwr dilys yn y ddwy iaith dan sylw. Gan fod disgyrsiau dominyddol yn gosod siaradwyr hŷn, gwledig, brodorol fel siaradwyr delfrydol (Beaugrande, 1998), mae’n rhaid i siaradwyr newydd yn y lleoliadau trefol ddod o hyd i strategaethau i gynnal ymdeimlad o fod yn siaradwyr ‘dilys’. Mae’r papur yn arolygu gwaith blaenorol ar strategaethau o’r fath ac yn amlinellu sut y bydd y rhain yn cael eu harchwilio ymhellach mewn prosiect y mae’r awdur yn ei gynnal ar ‘adfywio heb siaradwyr brodorol’ (Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl, 2019-2022).
Traddodir y cyflwyniad yn Saesneg. Mae croeso ichi ddefnyddio’r Gymraeg wrth ofyn cwestiynau.
Cyfeiriad:
Beaugrande, R. (1989). “Performative speech acts in linguistic theory: The rationality of Noam Chomsky.” Journal of Pragmatics 29: 1-39.
Ystafell 1.69
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU