”Ni allwn ni fforddio bod yn wyrdd” – profiadau o wendidau ac arloesedd ynni yng nghymoedd de Cymru gan Fiona Shirani
Dydd Gwener, 7 Chwefror 2020
12:00-13:00
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd Fiona yn sôn am rai o’r cyfweliadau hydredol ansoddol y mae hi wedi’u cynnal yng nghymunedau cymoedd de Cymru lle mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu cynllun cynhesu geothermol lleol gan ddefnyddio dŵr o hen weithfeydd glofaol.
Yn y cyflwyniad hwn, bydd Fiona yn edrych ar sut mae cysylltiadau’r ardal ag ynni wedi newid dros amser, a bydd yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â chysylltu pobl sy’n poeni i wahanol raddau am y newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yng nghyd-destun pwysau bywyd pob dydd mewn cymuned incwm isel.
0.01
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA