Arwyr Comig Byd-eang: Agweddau Diacronig a Rhyngsemitotig ar Gyfieithu Rhyngieithol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Comic book pages](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1751433/Comic-book-pages-2020-1-22-16-22-23.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Prif ddarlith gan yr Athro Federico Zanettin (Prifysgol Perugia) sy'n agored i bawb, fel rhan o'r Gynhadledd Delweddau Hylif.
Sylwch, er bod y brif ddarlith hon yn agored i bawb, ei bod yn rhan o'r Gynhadledd Delweddau Hylif ac mae'r cofrestriad i fynychu'r gynhadledd wirioneddol bellach wedi cau.
Crynoldeb
Gan ddefnyddio gwahaniaethiad teir-ran Jakobson rhwng cyfieithiad rhyngieithol, mewnieithol a rhyngsemiotig fel man cychwyn, byddaf yn dadlau bod ei bod yn anodd dosbarthu ar sail y model hwnnw yng nghyd-destun cyfieithu comics. Er mwyn egluro’r honiad hwn, byddaf yn darparu enghreifftiau o gyfieithiaday o ddau gomig doniol, sef Astérix a Paperlink, i mewn i sawl iaith. Mae anturiaethau’r cymeriadau hyn wedi cael ei ail-argraffu mewn ffyrdd amrywiol dros gyfnod o 50 mlynedd ac maent erbyn hyn wedi dod yn arwyr byd-eang o raffeg ffuglen gyfoes. Er hyn, mae eu hagweddau yn ymddangos yn wahanol yn ddibynnol ar y strategaethau cyfieithu a ddefnyddiwyd a’r cyd-destunau cymdeithasol ble caiff eu derbyn. Yn fy nghyflwyniad, byddaf yn dadlau fod cyfieithu comics yn torri ar draws ffiniau diacronig a semiotig.
Bywgraffiad
Darlithydd Cyswllt Saesneg Iaith a Chyfieithu mewn Prifysgol ym Mherugia, Yr Eidal yw Federico Zanettin. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn amrywio o gomigau mewn cyfieithiad, i astudiaethau cyfieithu sy’n seiliedig ar gasgliadau a chyfieithu newyddion. Mae wedi cyhoeddi llawer mewn erthyglau ag adolygwyd gan gymheiriaid, cyfrolau a gwyddoniaduron. Mae’n cyd-olygu cyfnodolyn inTRAlinea ac mae’n cydweithio â chyfnodolion a chyhoeddwyr blaenllaw ym maes astudiaethau cyfieithu. Mae rhai o’r cyhoeddiadau y mae wedi eu cyhoeddi yn cynnwys y gyfrol gasgledig Comics in Translation (2008), ble golygodd a’i hysgrifennu yn rhannol, a’r llyfr Translation-Driven Corpora (2012).
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 19 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS