Ffasiwn Cynaliadwy: Trafod effaith ffasiwn cyflym ar ddŵr
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Disgwylir i’r galw am ddillad ar draws y byd gynyddu gan 60% dros y deg mlynedd nesaf. Eto i gyd, mae’r sector dillad a’i brosesau cynhyrchu o dan feirniadaeth gynyddol am roi pwysau ar adnoddau dŵr ar draws y byd.
Mae Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd yn dod ag arbenigwyr o’r byd academaidd a diwydiant ynghyd am drafodaeth gyda’r hwyr am effaith amgylcheddol y diwydiant tecstiliau.
Ymhlith y siaradwyr bydd:
- Yr Athro Max Munday (Ysgol Busnes/Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd);
- Conor Linstead (Arbenigwr Dŵr Croyw - WWF);
- Claire Rees (Newyddiadurwr a Steilydd Ffasiwn Cynaliadwy).
Cofrestrwch i ymuno â’r drafodaeth.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT