Datblygu agwedd strategol at gaffael
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![People moving forward in an arrow formation](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1722280/Working-in-collaboration-2019-11-12-11-51-38.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae polisïau caffael cyhoeddus Cymru wedi denu sylw beirniadol sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Swyddfa Archwilio Cymru’n tynnu sylw at ddiffygion strategol ac ymarferol, a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn canfod canlyniadau cymysg am effeithiolrwydd polisïau caffael.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi amlygu pwysigrwydd caffael mwy clyfar a moesegol er mwyn ategu nodau o ran polisïau lles, codi statws caffael a harneisio ei bŵer i gefnogi BBaChau rhanbarthol a’r economi sylfaenol.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ystyried yr achos dros agwedd fwy strategol at gaffael cyhoeddus, gyda chyfres o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau dros y deunaw mis diwethaf.
Rydym yn credu ei bod hi’n werth cynnull gweithwyr caffael cyhoeddus ynghyd i drafod agweddau ymarferol at fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu. Y nod fydd cynnig ‘man diogel’, gyda rhywfaint o sylwebaeth gan arbenigwyr a thrafodaeth bwrdd crwn agored a gonest wedi’i hwyluso ynghylch heriau ymarferol a’r hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â nhw.
Ymhlith y siaradwyr bydd:
- Liz Lucas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Jane Lynch, Ysgol Busnes Caerdydd
- Kevin Morgan, Ysgol Busnes Caerdydd
- Steve Robinson, Cyngor Dinas Caerdydd
Bydd lluniaeth ar gael yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch erbyn dydd Sul 17eg Tachwedd i gadw'ch lle.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA