Darlith Nadolig Assuming Gender 2019: ‘Bulgarian Tendencies’: Llyfrau Cwiar Peryglus 1895-1933 (Dr Justin Bengry, Goldsmiths)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch â ni ar Dydd Iau Ragfyr 5ed ar gyfer Darlith Nadolig blynyddol Assuming Gender. Bydd Dr Justin Bengry (Goldsmiths) yn cyflwyno ei bapur: ‘Bulgarian Tendencies': Llyfrau Cwiar Peryglus 1895-1933’, sy’n archwiliad hynod ddiddorol o hanes nofelau cyfunrywiol enwog a’u perthynas â chyhoeddi a masnach. Mae'r digwyddiad am ddim a bydd derbyniad gwin yn ei ddilyn.
Y crynodeb:
Hyd yn oed yn ddegawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, mae amddiffyniadau o cyfunrhywiaeth gan Edward Carpenter, Rose Allatini a Radclyffe Hall yn dangos yr heriau wnaeth awduron a chyhoeddwyr llyfrau cwiar derbyn. Ond mae eu cyfarfyddiadau gyda darllenwyr ac awdurdodau hefyd yn dangos y farchnad posibl ar gyfer deunyddiau a oedd yn hyrwyddo goddefgarwch, dealltwriaeth a hyd yn oed yn cefnogi diwygio cyfreithiol. Roedd pob cyhoeddwr eisiau cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol, ond nid oedd un yn danddaearol neu ymylol. Ond roedd y dewis i gyhoeddi gwaith a oedd yn siarad am cyfunrhywiaeth fel rhywbeth da yn beryglus ac yn achosi gwrthdaro efo awdurdodau a beirniadai oedd eisiau rheoli sgyrsiau cyhoeddus am cyfunrhywiaeth, yn arbennig pan oedd e’n gwrthdaro a chymhellion masnachol a’r posibilrwydd o elw.
Mae Dr Justin Bengry yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Goldsmiths ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar hanes cwiar a'r berthynas rhwng hunaniaethau rhywiol a phrynwriaeth. Cyhoeddir ei lyfrThe Pink Pound: Capitalism and Homosexuality in Twentieth-Century Britainyn fuan gan Wasg Prifysgol Chicago. I gael mwy o wybodaeth am ei gyhoeddiadau, ewch i:www.justinbengry.com.
Mae Assuming Gender yn brosiect amlddisgyblaethol dan arweiniad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn darparu lle i fyfyrio a thrafod materion sy'n ymwneud yn â rhyw a'i le mewn diwylliant a chymdeithas. Rydym yn trefnu digwyddiadau ac yn golygu cyfnodolyn gydag adolygiad. Ein gwefan yw: www.assuminggender.wordpress.com.
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU